Mae adfer Coedwig y Kinabatangan yn dasg aruthrol; mae'r ardal gychwynnol a nodwyd gan ein partneriaid yn cwmpasu 2,600 hectar (sy'n gofyn am tua 20 miliwn o goed). Er nad ydym eto mewn sefyllfa i weithredu ar y raddfa hon, rydym yn griw uchelgeisiol! Yn ystod y cyfnod tyngedfennol hwn i'n planed a'n goroesiad; rydym yn benderfynol o chwarae ein rhan.

Beth mae Regrow Borneo yn ei wneud?

  • Cynyddu Bioamrywiaeth

    Mae gan goedwig drofannol iach amrywiaeth eang o rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid. Bydd cynnydd yn yr amrywiaeth hon yn fesur o lwyddiant ein prosiect adfer.

  • Cynyddu Dealltwriaeth Wyddonol o Ailgoedwigo

    Rydym yn cynnal ymchwiliadau gwyddonol i'r prosesau cymdeithasol, ecolegol ac amgylcheddol a allai wella gwaith adfer ecolegol effeithiol

  • Cefnogi Bywoliaethau Lleol

    Rydym yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod y gwaith adfer yn cefnogi eu nodau ac yn sicrhau bod pobl yn derbyn cyflog teg a chyfartal

  • Atafaelu Carbon

    Mae coed a phriddoedd trofannol yn storio carbon yn eu strwythurau ac yn gallu sugno carbon o'r atmosffer. Byddwn yn mesur y prosesau hyn a'u heffeithiau posibl ar newid yn yr hinsawdd

Lle rydyn ni'n gweithio

Mae Regrow Borneo yn Elusen yn y DU sydd â chysylltiadau cryf â Phrifysgol Caerdydd.

Mae'r prosiect yn plannu coed yn Noddfa Bywyd Gwyllt y Kinabatangan Isaf, Sabah, Malaysia.  Ers y 1980au, collwyd tri chwarter coedwig law drofannol yr ardal i ddatgoedwigo, yn bennaf fel canlyniad i ehangu planhigfeydd olew palmwydd. Mae hyn wedi “darnio” y goedwig, gan leihau’r cynefin sydd ar gael ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys rhywogaethau sydd dan fygythiad fel yr Orangwtan, Mwnci Proboscis a’r Eliffant Pygmy.