2000 trees.jpg

Helpwch ni i dyfu!

Bydd eich rhodd yn cefnogi gwaith adfer Coedwig Law Borneo mewn modd moesegol a thryloyw, gyda’r coed yn cael eu tyfu, eu plannu a'u cynnal gan gymunedau lleol fydd yn derbyn cyflog teg am eu gwaith.

Ar gyfartaledd*, mae'n costio £2 i ni blannu coeden a'i chynnal am 3 blynedd a £ 5,000 i adfer ardal un hectar o’r goedwig law.  

Mae'r costau hyn yn cynnwys: 

- Casglu hadau a thyfu glasbrennau, 

- Teithio i’r ardaloedd plannu (ar gwch fel arfer) 

- Clirio glaswellt a gwinwydd er mwyn cynyddu’r tebygrwydd y bydd y glasbrennau’n goroesi, 

- Tagio a monitro'r coed ynghyd â gwaith cynnal a chadw rheolaidd am y 3 blynedd gyntaf. 

- Sefydlu lleiniau botanegol a gwaith monitro i gefnogi'r wyddoniaeth. 

 * *Mae’r amodau ar draws ein safleoedd plannu yn amrywio yn sylweddol e.e. o ran y math o bridd, amlder llifogydd, a lefel y diraddiad ecolegol. Rydym yn dewis cymysgedd priodol o goed brodorol ar gyfer pob ardal ac yn gweithio o gwmpas unrhyw goed sydd eisoes yn bodoli.  O ganlyniad, gall nifer y glasbrennau sydd eu hangen i adfer hectar i'w ddwysedd optimwm amrywio, a gall hynny ddylanwadu ar gostau hefyd.  Er enghraifft, mae angen plannu dwysach mewn ardal mawndirol sydd dan ddŵr yn dymhorol na fydd ei angen ar orlifdir.  Yn ogystal gan ein bod yn dewis ymgymryd â safleoedd heriol bydd cyfraddau goroesi coed yn amrywio gyda’r angen i ailblannu ar adegau. Byddwn yn cyhoeddi ein lleoliadau a'n dwyseddau plannu er tryloywder ac atebolrwydd.  

FFyrdd eraill I helpu

  • Cydweithio ar Ymchwil: Mae gennym gysylltiadau cryf â Phrifysgol Caerdydd ac mae gan ein hymddiriedolwyr arbenigedd mewn ystod eang o ddisgyblaethau. Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio ar ymchwil, ewch i’r adran “pwy ydym ni” a chysylltwch â'r unigolyn sydd â’r diddordeb ymchwil mwyaf perthnasol i'ch gwaith.

  • Sgiliau: Fel elusen newydd sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr rydym bob amser yn ddiolchgar am gynigion o gefnogaeth. Mae diddordeb yn arbennig gennym mewn cefnogaeth gyda cyfrifo carbon, cyllid, cyfathrebu, a sgiliau Maleieg.

  • Gwirfoddoli ym Morneo: Efallai y bydd yna gyfleoedd yn codi i gefnogi gweithgareddau clirio tir, plannu coed neu fonitro. Cysylltwch â KOPEL i gael rhagor o wybodaeth